Rhif y ddeiseb: P-05-929

Teitl y ddeiseb: Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfeirio at ein gwlad fel Cymru, a'r genedl fel Cymry, yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob datganiad swyddogol. Mae tarddiad y termau "Wales" a "Welsh" yn cyfeirio atom fel estroniaid a thaeogion yn ein gwlad ein hunain. Mae'n bryd i ni ddiffinio ein hunain yn hytrach na chael ein diffinio gan genedl arall – a symbol o hynny fyddai cyfeirio atom ein hunain fel Cymry a'n gwlad fel Cymru.

 


Cefndir

Cymru a Cymry

MaeCymry yn golygu pobl Cymru, tra bod Cymru yn golygu’r wlad.

Mae Hanes Cymru, gan Dr John Davies, yn nodi ei fod yn debygol bod y term Cymry wedi'i fabwysiadu oddeutu 580 OC, ac fe’i defnyddiwyd i gyfeirio at bobl yng Nghymru yn ogystal â Gogledd Lloegr a De'r Alban (sef 'yr Hen Ogledd', fel y’i gelwyd ar y pryd).  Esblygodd o'r gair Brythonig 'Combrogi', neu gyd-wladwyr, gan ddisodli'r term 'Brython' yn raddol.  Dywedodd Dr Davies fod Cymru a Cymry yn cael eu sillafu fel 'Cymry' neu 'Kymry' tan oddeutu 1560 OC.  Roedd cyfeiriad cynnar at Cymru yn cael ei sillafu fel 'Kymry' wedi'i gynnwys mewn cerdd mawl i Cadwallon ap Cadfan, sef Brenin Gwynedd ar y pryd, a ysgrifennwyd yn ôl pob tebyg oddeutu 633 OC ym marn Dr Davies.

Nododd yr Athro Gwyn Alf Williams yn When Was Wales? (tudalen 3) y canlynol mewn perthynas â Chymry’r 8fed ganrif:

…they were beginning to call what was left of the Britons Cymry or fellow-countrymen.  Pretty soon there was nobody left to call Cymry except themselves.  Their stronger kings started to hammer the whole bunch together and to make a country called Cymru.

Yn ôl Dr Davies, esblygodd y termau Cymry a Cymru i’w sillafiadau presennol oddeutu 1560 OC.

Gwreiddiau ‘Wales’ a ‘Welsh’

Mae academyddion yn dadlau ynghylch gwreiddiau'r termau 'Wales' a 'Welsh', a'r hyn yr oeddent yn ei olygu ar y pryd.  Amlinellir rhai o'r prif gyfraniadau isod.

Yn When was Wales, dywedodd yr Athro Gwyn Alf Williams y canlynol wrth ddisgrifio Cymry’r 8fed Ganrif (tudalen 3):

…stuck in their peninsulas behind a great dyke and rampart raised by an alien people who called them foreigners – in that ancient language weallas – Welsh.

Mae'r disgrifiad hwn yn cyfateb i ddisgrifiad yr Athro Jeremy Black, a nododd y canlynol yn A New History of Wales (tudalen 21):

The conflict with the Anglo-Saxons defined Wales culturally, ethnically and politically; a frequent situation in post-Roman Europe, as peoples defined themselves following the collapse of the concept of unity under Roman rule.  Wales was given identity by the conquerors in terms of otherness: the Saxons used Walas or Wealas to describe the Britons, and it meant both serfs and foreigners.

Mae'r hanesydd David Ross hefyd yn sôn am yr Eingl-Sacsoniaid yn diffinio’r ‘Welsh’ fel estronwyr yn ei lyfr Wales: History of a Nation.  Mae'n honni’r canlynol (tudalen 66):

 …intermittent warfare went on into the ninth century.  No longer could the Welsh kingdoms consider themselves part of an interrelated set of peoples occupying almost the whole of the British landmass.  The realisation of this probably fostered the development of the name ‘Cymry’, ‘comrades’, which came to be the Welsh people’s own name for themselves.  However great their internal arguments and dissensions, they were aware of an essential unity.  To the Anglo-Saxons, they were the Wallas, ‘foreigners’, a name which leads directly to present-day Welsh.  

Yn Hanes Cymru (tudalen 69) cynigiodd Dr John Davies gyd-destun hanesyddol gwahanol o ran datblygiad y gair ‘Welsh’.  Dywedodd fod gan y term 'Welsh’ nifer o ystyron hanesyddol eraill yn ogystal ag 'estronwr', gan nodi’r canlynol:

… Ymddengys nad estroniaid yn gymaint â phobl a Rufeineiddiwyd oedd y Welsh; ceir fersiynau o’r gair ar hyd ffin yr Ymerodraeth – Walwniaid Gwlad Belg, Welsch y Tirol Eidalaidd a Vlachiaid Rwmania.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae llythyr Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar 11 Rhagfyr at y Pwyllgor yn nodi bod “hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru: rydym am weld Cymru sy’n genedl hyderus a dwyieithog.”  Gan edrych yn benodol ar y ddeiseb, mae'n dweud y canlynol:

Rwy’n cefnogi’r syniad o annog pobl i ddefnyddio “Cymru” a “Cymry” mewn deunydd Saesneg mewn ffordd sy’n cryfhau’n neges: ond mae’n bwysig hefyd ein bod yn para’n hyblyg ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n briodol i’r cyd-destun a’n cynulleidfa.

Mae llythyr y Gweinidog hefyd yn trafod ffyrdd ymarferol y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio Cymru a Cymry.  Mae hi'n nodi bod brand neu logo Llywodraeth Cymru bob amser yn cael ei ddefnyddio'n ddwyieithog, a bod Cymru a Chymru ill dau yn cael eu defnyddio yn ymgyrchoedd y llywodraeth.  Mae'r Gweinidog yn rhoi enghraifft o ddefnyddio 'Cymru' heb ei chyfieithu mewn is-benawdau Saesneg er mwyn cryfhau’r neges, megis defnyddio 'This is Cymru' fel rhan o ymgyrchoedd, ac mewn deunydd ym Maes Awyr Caerdydd.  Mae ei llythyr hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfeirio at bobl Cymru fel 'Cymry' lle bo hynny'n briodol.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Pan drafodwyd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2019, pasiwyd nifer o welliannau gan y Cynulliad a oedd yn ymwneud ag enw'r Cynulliad a'i Aelodau yn y dyfodol.

Mae’r Ddeddf yn darparu y caiff y Cynulliad ei ailenwi'n 'Senedd Cymru' neu 'Welsh Parliament', ar ôl i welliant yn cynnig hyn gael ei basio yn ystod Trafodion Cyfnod 2.  Yn wreiddiol, roedd yn cynnig ailenwi'r Cynulliad yn Senedd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, bydd Deddfau'r Cynulliad yn cael eu hailenwi'n ‘Acts of Senedd Cymru’, neu Ddeddfau Senedd Cymru, gan ddefnyddio Cymru a'r Senedd yn y ddwy iaith.  Bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hailenwi'n Aelodau o'r Senedd, neu ‘Members of the Senedd’, a bydd Comisiwn y Cynulliad yn cael ei ailenwi'n Gomisiwn y Senedd neu ‘Senedd Commission’.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.